k. ir haf iw foli
1 Gwae fi hîl eiddil addaf
2 vordwy rhâd vyrred vy /r/ haf
3 Rho duw gwîr mae dihiraf
4 rhag i ddarvod ddyvod haf
5 a llednais wybr ehwybraf
6 a llawen haul ai lliw n haf
7 ag awyr erwyr araf
8 ar byd yn hyfryd yn haf
9 knwd da iawn knawd dianaf
10 or ddaear hen a ddaw /r/ haf
11 i dyvu glassu glwysaf
12 dail ar goed ir rhoed yr haf
13 a gweled modd i chwarddaf
14 gwallt ar ben hoewfedwen haf
15 paradwys iddaw prydaf
16 pwy ni chwardd pan fo hardd haf
17 glut anianawl i molaf
18 glwysuodd wi o[rhwyg] rhodd yw /r/ haf
19 deune geirw dyn a garaf
20 dan frig ae rhyvig yw /r/ haf
21 kog yn serchog os archaf
22 a gan diwedd huan haf
23 glasgain edn glwys gani[ ]daf
24 kloch osper am hanner [ ]
25 bangaw lais eos dlos[ ]
26 pwyntus hy mywn [ ]
27 kailiog vrwydr i kiliaf
28 y vronvraith hoew [ ]abia[ ]
29 dyn ovydd hi[ ]
30 a dr[ ] ga[ ]
31 [3] Aiddig kysswynvab addaf
32 ni ddaw hwn oni ddaw haf
33 rhoed i gyvoed or gaeaf
34 a rhan serchogion yw /r/ haf
35 minav dan fedw ni mynaf
36 mewn tai llwyn ond mentyll haf
37 gwisg gwe lan am danaf
38 pybr gwnsallt o harddwallt haf
39 idav dail id adolaf
40 anwyd ni bydd hirddydd haf
41 llednais verch os anerchaf
42 llon yw /r/ hwyl hon ar ael haf
43 gwawd ni lwydd arwydd oeraf
44 yw gwaardd hoewfardd yr haf
45 gwynt ni ad gwasgad gwisgaf
46 gwydd y mhwynt gwae ddoe am haf
47 hiraeth nid ymddihauraf
48 dan fy mron em hon am haf
49 o daw hydref ef aeaf
50 eiry rhew i yrru /r/ haf
51 gwae finnav grist gofynaf
52 os gyr mor rhyvyr mae /r/ haf
dd ap Gwilim